Cymraeg

Ein pwrpas yw amddiffyn y cyhoedd drwy hyrwyddo safonau uchel o addysg, ymddygiad a pherfformiad ymhlith optegwyr. Ar hyn o bryd rydym yn cofrestru rhyw 26,000 o optometryddion, optegwyr dosbarthu, myfyrwyr optegol a busnesau optegol. Yn chwilio am optegydd yn eich ardal chi? Eisiau cwyno am ymarferwr gofal llygaid? Neu efallai eich bod newydd gymhwyso fel optometrydd ac angen cofrestru gyda ni cyn i chi ddechrau ymarfer. Beth bynnag rydych yn chwilio amdani, gallwch ddefnyddio’r wefan hon i ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n addas i chi.

Credwn fod darpariaeth ddwyieithog yn bwysig fel mater ansawdd gwasanaeth nid fel gofyniad cyfreithiol yn unig. Wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru, byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Am fwy o wybodaeth, gweler ein Cynllun Iaith Gymraeg:

Cynllun Iaith Gymraeg

Dysgu amdanom ni

Rydym yn amddiffyn y cyhoedd drwy:

  1. Gosod safonau ar gyfer addysg optegol, hyfforddiant, perfformiad ac ymddygiad;
  2. Cymeradwyo’r cymwysterau sy’n arwain at gofrestriad;
  3. Cyhoeddi cofrestr o weithwyr proffesiynol, myfyrwyr a busnesau gofal llygaid yn y DU; ac
  4. Ymchwilio a gweithredu ynghylch pryderon am unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda ni.

Am fwy o wybodaeth am bwy ydym ni a’r hyn rydym yn ei wneud, lawrlwythwch ein llyfryn ‘Amdanom Ni’:

Amdanom ni - Cyngor Optegol Cyffredinol

Pwy sy’n rheoleiddio gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol?

Cynllun Strategol - Ebrill 2017 i Fawrth 2020

Cwyno am optegydd

Os ydych yn dymuno cwyno am addasrwydd optegydd cofrestredig i ymarfer, mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein llyfryn, 'Sut i gwyno am optegydd':

Sut i gwyno am optegydd

I gwyno am optegydd cofrestredig, y cam cyntaf yw llenwi’r 'ffurflen ymchwilio', a’r ffurflen 'cael copïau o gofnodion optegol'. Mae’r ddwy ar gael i’w lawrlwytho:

Ffurflen Ymchwilio
Cael copïau o gofnodion optegol perthnasol

Cwynion ac Adborth am y Cyngor Optegol Cyffredinol

Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut allwch chi godi cwyn neu roi adborth am ein polisïau, prosesau, cyflogeion, aelodau neu bobl eraill sy’n gweithio i ni. Hefyd gallwch ddefnyddio’r polisi hwn i roi gwybod i ni sut mae darparwr cwrs Addysg Optegol neu CPD neu’rOCCS(Gwasanaeth Cwynion Defnyddwyr Optegol) wedi ymdrin â chwyn rydych wedi ei chodi gyda nhw.

Mae’r polisi hwn yn esbonio sut byddwn yn ymdrin â’ch cwyn a beth i’w ddisgwyl yn ystod y broses.

Cwynion ac Adborth am y Cyngor Optegol Cyffredinol

Darllen am y safonau y mae’n rhaid i optometryddion ac optegwyr dosbarthu sy’n cofrestru gyda’r GOC eu bodloni

Mae’r sawl sy’n cofrestru gyda ni dan ddyletswydd i ymddwyn yn broffesiynol ac yn barchus ym mhob agwedd ar eu gwaith. Cewch ddarllen am y safonau y gallwch eu disgwyl gan eich optegydd yn ein llyfryn, “Beth i'w ddisgwyl gan eich optegydd”:

Beth i’w ddisgwyl gan eich optegydd

Fel rheoleiddiwr y proffesiynau optegol yn y DU, mae gennym gyfrifoldeb statudol dros bennu safonau ar gyfer optometryddion, optegwyr dosbarthu, myfyrwyr optegol a busnesau optegol.

Safonau Ymarfer ar gyfer Optometryddion ac Optegwyr Dosbarthu

Safonau Ymarfer ar gyfer Myfyrwyr Optegol

Safonau ar gyfer Busnesau Optegol (mewn grym o fis Hydref 2019)

Adroddiad Blynyddol 2016/17
Adroddiad Blynyddol 2015/16
Adroddiad Blynyddol 2014/15
Adroddiad Blynyddol 2013/14

Mae adroddiadau blynyddol blaenorol ar gael yn www.optical.org/en/news_publications/Publications/annual_reports_archive.cfm yn Saesneg yn unig.

Cyhoeddiadau’r GOC mewn copi caled

I gael copïau papur o unrhyw un o’r cyhoeddiadau hyn, ysgrifennwch at ein hadran Gyfathrebu yn 10 Old Bailey, Llundain, EC4M 7NG. Neu anfonwch neges e-bost at communications@optical.org

Chwilio’n cofrestri

Cewch chi chwilio’r Cofrestri Optegwyr am optometrydd, optegydd dosbarthu, myfyriwr optegol neu gorff corfforaethol cofrestredig. Cewch chi ddefnyddio’r cofrestri hefyd i ddod o hyd i optegydd yn eich ardal chi. Cewch chi ddarllen am bwysigrwydd gwirio bod eich optegydd wedi cofrestru drwy lawrlwytho'r llyfryn hwn:
Gwiriwch fod eich optegydd wedi cofrestru

Pam dewis gyrfa ym maes gofal llygaid?

Canllawiau'r GOC ar gyfer Tystion yng Ngwrandawiadau'r Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer

Cysylltwch â ni

Mae’r adran hon yn dweud wrthych sut i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Ein cyfeiriad

10 Old Bailey

Llundain

EC4M 7N

Rhifau cyswllt

Ffôn: +44 (0)20 7580 3898

Ffacs: +44 (0)20 7307 3939

E-bost

E: goc@optical.org

Oriau swyddfa

9:00 - 17:00 Llun - Iau
9:00 - 16:45 Gwener

Map o swyddfa’r GOC